stitcherLogoCreated with Sketch.
Get Premium Download App
Listen
Discover
Premium
Shows
Likes
Merch

Listen Now

Discover Premium Shows Likes

Beti a'i Phobol

300 Episodes

49 minutes | Mar 19, 2023
Berwyn Rowlands
Berwyn Rowlands, y trefnydd a 'r cynhyrchydd yw gwestai Beti George, ac mae bellach yn adnabyddus am ei waith gyda Gwobrau Iris Gŵyl Ffilm LGBTQ+. Fe ddaw Berwyn yn wreiddiol o Ynys Môn, ac mae'n sôn am ddylanwad Ysgol Gynradd Llangoed ac Ysgol David Hughes, Porthaethwy arno. Mae mewn perthynas â Grant ers 34 mlynedd - a nhw oedd y cwpl cyntaf i gael partneriaeth sifil ar Ionawr 25ain 2006.
51 minutes | Mar 12, 2023
Pat Morgan
Pat Morgan aelod allweddol o'r band eiconig Datblygu yw gwestai Beti a'i Phobol. "Mae'n magic fel mae hi'n gweithio" geiriau Dave Datblygu. Mae hi'n siarad am ei magwraeth yn y Ficerdy, dechrau grŵp pop Y Cymylau gyda'i chwaer, a'i chariad tuag at gerddoriaeth.
53 minutes | Mar 5, 2023
William Owen Roberts - Wil Garn
Awdur nofelau Y Pla, Petrograd, Paris a Paradwys, i enwi ond rhai, yw gwestai Beti George, William Owen Roberts neu Wil Garn i lawer sydd yn ei adnabod. Mae'n trafod beth sydd yn ei ysgogi i ysgrifennu ac yn sôn am ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth lle bu'n rhannu tŷ gyda'r diweddar Iwan Llwyd. Mae hefyd yn trafod ei nofel ddiweddaraf Cymru Fydd.
54 minutes | Feb 19, 2023
Cledwyn Jones
Bu farw Cledwyn Jones, oedd fwyaf adnabyddus fel aelod o Driawd y Coleg, yn Hydref 2022 ac yntau'n 99 mlwydd oed. Dyma gyfle i fwynhau plethiad o 2 raglen recordiodd Beti George gydag ef yn 2015. Un o Dal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle oedd Cledwyn Jones, ac wedi cyfnod gyda'r awyrlu aeth i Goleg Prifysgol Bangor. Yno y cyfarfu â dau aelod arall y triawd poblogaidd - Meredydd Evans a Robin Williams - ac fe fuont yn perfformio ar lwyfannau nosweithiau llawen ledled Cymru.
50 minutes | Feb 5, 2023
Dr Nia Wyn Jones
Darlithydd Hanes Canol Oesol a Modern ym Mhrifysgol Bangor, Dr Nia Wyn Jones yw gwesai Beti George. Daw yn wreiddiol o Abertawe ac wedi blynyddoedd lawer o anhapusrwydd fe benderfynodd gael triniaeth i newid ei rhywedd yn ddiweddar.
51 minutes | Jan 29, 2023
Rhiannon Boyle
Y dramodydd Rhiannon Boyle yw'r gwestai. Mae ei drama newydd ar gyfer Radio Cymru, 'Lysh', wedi’i selio ar brofiadau personol a’i pherthynas hi gydag alcohol. Pan fyddai hi'n yfed roedd yn tueddu o yfed tipyn ar y tro, gan fynd dros ben llestri a gwneud pethau gwirion. Wedi iddi roi'r gorau i yfed am fis, teimlodd bod ei hiechyd meddwl wedi gwella, ac roedd hi'n cysgu'n well. O ganlyniad, mi benderfynodd beidio ag yfed alcohol eto. Cawn glywed am sut y dechreuodd astudio Drama yn yr ysgol, wedi cyfnod anodd ar ôl i'w rhieni wahanu, a sut y newidiodd ei byd. Clywn hefyd am rai o'i dramâu, yn cynnwys 'Safe From Harm' i Radio 4, sydd dal ar BBC Sounds; 'Anfamol' a gynhyrchwyd gan y Theatr Genedlaethol, a'i chomisiwn diweddaraf i addasu'r nofel 'Un Nos Ola Leuad' ar gyfer Radio 4 a Radio Cymru.
53 minutes | Jan 15, 2023
Annie Walker
Annie Walker yw gwestai Beti George. Mae hi’n artist, a ddaw'n wreiddiol o Fferm Blaen Halen, Castell Newydd Emlyn, ac 'roedd hi’n yr un dosbarth â Beti yn ysgol Llandysul. Bu’n astudio Celf yn Newcastle, ac yn ddiweddarach bu’n rhan o greu set 2001 Space Odyssey - Ffilm Ffuglen Wyddonol (sci-fi) Stanley Kubrick MGM, yn Boreham Wood, ar ôl gweld hysbyseb yn y Times. Mae hi’n fam i bedair merch. Mae Hannah yn briod i‘r cyflwynydd teledu a’r actor Alexander Armstrong, ac mae Esther yn briod â'r newyddiadurwr a’r darlledwr Giles Coren. Fe enillodd Ann gystadleuaeth yng nghylchgrawn GIRL. Cafodd dipyn o syndod o gael ei galw i gyfweliad yn Llundain gan fod 17,000 o ferched wedi anfon lluniau i mewn i'r cylchgrawn. Y wobr oedd cael mynd i Florence yn yr Eidal i weld lluniau a cherfluniau o'r Dadeni (Renaissance). Joyce Fitzwilliams oedd yr athrawes gyda hi i Florence, ac roedd yn drip anhygoel, gan gyfarfod â Pietro Annigoni yn ei stiwdio. 'Roedd ef wedi dod yn enwog iawn ar ôl gwneud portread o'r Frenhines. 'Roedd yna erthygl ar y trip mewn cylchgrawn poblogaidd ar y pryd o'r enw 'Picture Post'. Yr un flwyddyn yng nghylchgrawn y bechgyn - yr 'Eagle' enillodd James Dyson y wobr gyntaf a David Hockney y drydedd wobr.
52 minutes | Jan 8, 2023
Kath Morgan
Kath Morgan, sylwebydd pêl droed a chyn Gapten tîm pêl droed merched Cymru, yw gwestai Beti a'i Phobol. Dechreuodd Kath chwarae pêl droed yn yr ysgol gynradd a hithau’n 7 oed; mae’n cofio diflasu chwarae gyda’r genethod a phenderfynu ei bod yn awyddus i ymuno efo’r bechgyn. Bu'n gwylio'r bechgyn yn chwarae am flynyddoedd i ddysgu sgiliau. Mae hi newydd ddychwelyd o Qatar lle bu'n sylwebu yno gyda Radio Cymru, ac fe recordiwyd y rhaglen hon ar y 13eg o Ragfyr 2022, yn ystod Cwpan y Byd. Ganwyd Kathryn Mary Morgan yn ysbyty Aberdâr ac fe'i magwyd yn Merthyr; mae hi'n sôn am ei magwraeth a'r gefnogaeth a gafodd gan ei theulu i chwarae pêl droed. Mae hi wedi dysgu Aaron Ramsey, ac 'roedd e bob amser yn ei holi hi pryd 'roedd hi'n chwarae ei gem nesa. Mae Kath yn hoff iawn o emynau gan eu bod yn ei hatgoffa o’i chefndir capel a’r ysgol Sul. Mae'r emyn Pantyfedwen (Tydi a Roddaist) yn un o'i dewisiadau.
51 minutes | Jan 1, 2023
Rhian Morgan
Yr actores Rhian Morgan yw gwestai Beti George. Yn ddiweddar mae hi wedi cymryd llwybr newydd yn ei bywyd ac yn hyfforddi i fod yn Offeiriad. Mae Rhian newydd gychwyn cwrs 2 flynedd gyda’r Eglwys yng Nghymru yng Ngholeg San Padarn; mae’n ddatblygiad annisgwyl iawn yn ei bywyd meddai hi, a hynny yn dilyn profiad anhygoel a ddigwyddodd iddi yn yr Eglwys yn Llandeilo. Cafodd Rhian ei geni yn Ysbyty Treforys a’i magu ym mhentref Cwm Rhyd y Ceirw ger Treforys yng Nghwm Tawe. Hi yw’r hynaf o dair chwaer; mae Nia yn nyrs yn Awstralia ac mae Elen yn darlithio a chyfarwyddo. Mae Rhian yn briod gydag Aled Samuel ac mae ganddi ddau o feibion. Ar hyd y blynyddoedd mae Rhian wedi bod yn ffodus iawn i gael cyfle i chwarae nifer fawr o rannau mewn dramâu ac mewn cynyrchiadau teledu, mae’n sôn am rai ohonynt gan gynnwys y cyfle i actio efo Anthony Hopkins yn y ffilm August.
52 minutes | Dec 18, 2022
Marc Howells
Marc Howells, Pennaeth Datblygu Pobl a Thalent AstraZeneca, yw gwestai Beti George Mae’n gyfrifol am 100 mil o bobol ar draws y byd, gan weithio rhwng Caergrawnt a’i gartref yng Ngresffordd. Bu’n gweithio gyda’r cwmni yn China, Awstralia a Philadelphia. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Llywodraethau Sweden, Portiwgal yr Almaen a'r Eidal ar ddatblygu sgiliau 5 miliwn o bobol ar gyfer y dyfodol.
51 minutes | Dec 11, 2022
Shan Jamil Ashton
Shan Jamil Ashton yw gwestai Beti George. Mae Shan yn gyn darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gymdeithasegydd. Mae hi'n arwain gwaith Cymunedau ac yn byw yn Capel Curig – yn chwaer i Caradog Jones y Cymro 1af aeth i fyny Everest. Cafodd ei geni ym Mhontrhydyfen De Cymru. Ei henw canol ydi Jamil - pan oedd ei thad yn ifanc bu’n aelod o’r Palestine Mountain Police ac mae ei chwaer wedi ei henwi’n Jasmine ar ôl yr ardal. Am flynyddoedd creda Shan mai ystyr Jamil oedd camel. Ond deallodd yn ddiweddarach drwy’r myfyrwyr yn y Coleg mai ystyr y gair ydi prydferth neu hardd. Bu'n astudio Celf am gyfnod yng Nghaerdydd. Ar ôl magu'r plant fe aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Bangor a graddio yn 1990. Roedd hi wedi bwriadu astudio Addysg er mwyn hyfforddi’n athrawes ond pan roedd hi yn ei blwyddyn gyntaf fe ddewisodd Ieithyddiaeth a Chymdeithaseg hefyd fel pynciau. Ar ôl ei darlith gyntaf mewn Cymdeithaseg mi roedd hi'n hooked meddai hi! Bu'n tiwtora a darlithio yn y Coleg Normal ac wedyn yn y Brifysgol ym Mangor.
52 minutes | Dec 4, 2022
Sylvia Davies
Sylvia Davies, amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto yw gwestai Beti George. Mae hi'n creu bagiau ac ategolion allan o wastraff fydda fel arall yn mynd i'r domen sbwriel. Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gwnïo a dysgodd wnïo pan oedd hi’n 4 oed - roedd ei Mam yn arfer gwnïo dillad iddi hi a’i chwaer. Fe wnïodd Sylvia ei ffrog briodas ei hun. Roedd gwnïo felly yn rhywbeth oedd yn ei chysylltu hi a’i mam. Sgil bywyd a ddysgodd ganddi, ac yn dilyn ei marwolaeth fe ddaeth yn llinyn cyswllt ac yn ffordd o ddygymod a’r galar. Bu Sylvia yn byw a gweithio yn Israel ac yn Thailand a hynny ar ôl astudio ei gradd mewn Anthropoleg yn y Brifysgol yn Llundain. Bu'n dipyn o rebel yn ei harddegau, ac mae hi'n rhannu'r straeon ei bywyd cynnar yng Nghaerfyrddin. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.
52 minutes | Nov 27, 2022
Y Parchedig John Owain Jones
Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a’i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i’r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon. Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o’r cychwyn. Wedi i’w rieni ddyweddïo roedd ei Dad eisiau arian i brynu tŷ felly aeth i weithio am gyfnod i’r Swyddfa Bost yn Rhodesia. Ar y llong ar ei ffordd draw yno rhannodd fync ar y llong gyda David Walker a oedd yn dod o Ynys Bute. Daeth ei Dad ac yntau’n ffrindiau pennaf a bu’n was priodas i’w Dad. Priododd ei fam a’i dad yn Salisbury, Rhodesia (Harare bellach). Priodwyd y ddau yn y Second Presbyterian Church ac roedd y Gweinidog yn dod yn wreiddiol o St Andrews (lle bu Owain yn y Brifysgol), a dychwelodd David yn ôl i Ynys Bute yn ddiweddarach. David hefyd oedd tad bedydd Owain a’i frawd Gethin. Bob haf roedd y teulu’n mynd draw i Ynys Bute ar wyliau. Roedd hynny yn un o’r rhesymau pam y dewisodd Owain Brifysgol St Andrews. Yn ddiweddarach fe aeth Owain i Rhodesia am gyfnod i weinidogaethu. Mae Owain yn cyfrannu’n gyson i’r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i’r Daily Service ar Radio 4. Fe fydd hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Mae'n rhannu straeon am ei fywyd ac yn dewis ambell i gân.
51 minutes | Nov 20, 2022
Iestyn Davies
Dros y blynyddoedd mae’r cyn-dditectif a Phrif Arolygydd Iestyn Davies wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr heddlu’n cynnig gwasanaethau Cymraeg. Wedi treulio 30 mlynedd gyda Heddlu’r Gogledd, mae Iestyn bellach yn Bencampwr y Gymraeg gyda’r cwmni sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau i’r rhai sydd wedi eu dal yn goryrru. UKROEd (UK Road Offender Education) sy’n rhoi trwyddedau i gwmnïau eraill i hyfforddi pobol sydd wedi eu dal yn gyrru yn gyflymach na’r terfyn, a gwaith Iestyn yw sicrhau bod y cwmnïau yng Nghymru yn cydymffurfio â rheolau iaith. Cyn hynny, bu’r gŵr sy’n byw ym Mhorthaethwy ym Môn yn arwain y tîm oedd yn edrych ar droseddau difrifol, gan gynnwys llofruddiaethau a ddenodd sylw'r byd. Mae Iestyn yn rhannu straeon bywyd ac yn sôn am y sialensiau a'r mwynhad a gafodd o wneud y gwaith.
49 minutes | Nov 14, 2022
Ann Jones
Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Ann Jones o Landdewi Brefi yw gwestai Beti George. Cawn wybod am ei magwraeth yng Nghwm Gwendraeth, dylanwad y Ffermwyr Ifaic arni, ac am waith Sefydliad y Merched.
49 minutes | Nov 14, 2022
Grant Peisley
Grant Peisley sydd yn sgwrsio gyda Beti George, dyn o Awstralia sydd wedi setlo yn ardal Caernarfon ac yn gwneud llawer o waith gydag ynni cymunedol ac yn sefydlwr cwmnïau megis YnNi Teg a Datblygiadau Egni Gwledig (DEG).
51 minutes | Nov 14, 2022
Sioned Llywelyn Williams
Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw busnes Sioned Llywelyn Williams o Lanuwchllyn sydd yn trafod steil a cholur ac am ei amryfal fusnesau yn ei hardal enedigol.
48 minutes | Nov 14, 2022
John Derrick, Rheolwr Gyfarwyddwr J. P. Morgan y DU
Beti George yn sgwrsio gyda Rheolwr Gyfarwyddwr Banc J.P. Morgan ym Mhrydain, John Derrick. Cawn glywed am ei fagwraeth yn Llanelli cyn mynd ati i weithio yn y byd arian yn y ddinas, heb sôn am 3 mlynedd yn gwerthu gwin o gwmpas y byd.
51 minutes | Nov 14, 2022
Euros Lyn
Beti George yn sgwrsio gyda'r cyfarwyddwr ffilm a theledu Euros Lyn. Mae'n son am ei blentyndod a'i fagwraeth mewn llefydd fel Guyana, Llanrug a Chwmtawe,. Hefyd, mae'n sgwrsio am ei waith yn gweithio ar gyfresi fel Dr Who, a'i gynhyrchiad diweddaraf sef y ffilm Dream Horse.
54 minutes | Nov 14, 2022
Elis James
Beti George yn sgwrsio gyda'r comedïwr Elis James. Cawn glywed am ei fagwraeth yng Nghaerfyrddin a'i ddechreuad fel comedïwr, yn ogystal â thrafod ei hoffter mawr o gerddoriaeth a phêl-droed.
COMPANY
About us Careers Stitcher Blog Help
AFFILIATES
Partner Portal Advertisers Podswag Stitcher Studios
Privacy Policy Terms of Service Your Privacy Choices
© Stitcher 2023